Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022
Pwynt Craffu Technegol 1:
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y dull drafftio a ffefrir gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, rydym yn fodlon, yn y cyd-destun penodol hwn, fod y diwygiad i erthygl 2 o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2018, o'i ddarllen, yn glir ac yn gyfreithiol gywir yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:
Mae Ffioedd Statudol wedi eu heithrio o dreth ar werth, felly ni chodir treth ar werth am y gwasanaethau hyn. Nid yw statws presennol y ffi wedi newid drwy hyn (diwygiad cadw tŷ ydyw, yn y bôn).
Caiff geiriad y Memorandwm Esboniadol/Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei ddiwygio er mwyn egluro mai data sy'n benodol i Gymru a gyflwynwyd, er mwyn amcangyfrif yr effaith ar fusnesau yng Nghymru.